Mwy o wybodaeth...
IMPLEMENT@Bangor
Rhaglen Ymchwil Gweithredu
Effaith
Yn draddodiadol mae ymchwilwyr wedi dibynnu ar gyhoeddiadau ar ddiwedd astudiaethau i ledaenu canfyddiadau ymchwil. Mae'r rhaglen weithredu yn cydnabod mai llwyddiant cyfyngedig yn unig sydd gan y dull hwn. Er ein bod yn sicrhau bod ein hymchwil yn cael ei ledaenu'n weithredol trwy gyhoeddiadau, cyflwyniadau mewn cynadleddau a chyfryngau cymdeithasol eraill, rydym yn gweithio gyda rheolwyr gofal iechyd, arweinwyr clinigol ac eraill i archwilio ffyrdd newydd o sicrhau effaith.
Gwelir rhai enghreifftiau o sut rydym yn ymdrin ag effaith isod.
Gwaith Project Partneriaeth
Nid yw ein partneriaethau ymchwil wedi'u cyfyngu i ofal iechyd. Mae cynghreiriau newydd gyda darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill yn ein galluogi i ddod o hyd i ffyrdd newydd o roi sylw i wahanol fathau o heriau gweithredu, ac ehangu'r potensial i gael effaith.
Mae Implement@Bangor yn cydweithredu â Heddlu Gogledd Cymru a'r Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona i gynyddu'r defnydd o dystiolaeth am atebion plismona effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Gogledd Cymru. Mae'r cydweithredu'n gyfle gwych i rannu profiad ac arbenigedd wrth ymdrin â'r her o weithredu tystiolaeth o'r 'hyn sy'n gweithio' ar draws y gwasanaethau iechyd a phlismona.
Mae'r cydweithredu'n canolbwyntio ar ddefnyddio'r fframwaith Promoting Action on Research Implementation in Health Services (PARIHS), a ddatblygwyd gan gyd-gyfarwyddwr Implement@Bangor, yr Athro Rycroft Malone. Yn ôl PARIHS, er mwyn i weithredu tystiolaeth fod yn llwyddiannus, mae angen synergedd rhwng y math o dystiolaeth, y cyd-destunau sefydliadol lle mae ei gweithredu wedi'i gynllunio, a'r strategaethau hwyluso sydd wedi'u cynllunio i hyrwyddo'r defnydd o dystiolaeth. Yn bwysig, bydd y cydweithrediad yn profi trosglwyddo PARIHS i feysydd polisi newydd sydd â chyfrifoldebau tebyg dros sicrhau defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau cyhoeddus trwy ddefnyddio tystiolaeth ymchwil wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.
Ar hyn o bryd mae Implement@Bangor yn arwain arolwg o weithlu Heddlu Gogledd Cymru a fydd yn darparu trosolwg sy'n seiliedig ar ddamcaniaeth o natur y cyd-destun gweithredu ar gyfer gweithredu ymchwil mewn plismona. Bydd gweithio gyda'n partneriaid yn sicrhau bod ymyriadau gweithredu priodol wedi'u cynllunio i hyrwyddo'r defnydd o atebion effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Modelau, offer a gweithgareddau
Fframwaith ‘Promoting Action on Research Implementation in Health Services’ (PARIHS)
Jo Rycroft-Malone
Mae'r corff hwn o waith wedi dylanwadu ar fframio a chynnal ymchwil gweithredu a throsglwyddo gwybodaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae PARIHS yn rhoi arweiniad i ddeall parodrwydd gweithredu, sut i drefnu gweithgaredd i gynyddu rhoi tystiolaeth ar waith, darparu polisi a gwasanaeth, a gwerthuso gweithgaredd o'r fath. Mae PARIHS wedi cyrraedd amrywiaeth o leoliadau ac asiantaethau ar ffurf ymgynghoriaethau, darparu a threfnu gwasanaethau, polisi ac ymchwil partneriaethau a chyfnewid.
Datblygwyd y fframwaith Promoting Action on Research Implementation in Health Services (PARIHS) yn anwythol ac mae wedi cael ei fireinio dros amser wedi hynny. Cynrychiolir gweithredu llwyddiannus fel swyddogaeth o natur tystiolaeth, ansawdd cyd-destun gweithredu, a dulliau priodol o hwyluso: SI = f (E, C, F).
Cliciwch yma i weld y sioe sleidiau: 'What PARIHS is about'
CAM |
GWEITHGAREDDAU A CHYHOEDDIADAU PERTHNASOL |
Datblygu |
|
Dadansoddi cysyniad |
|
Ymholiad empirig |
|
Profi empirig |
|
Datblygu offer |
|
Effaith cyhoeddiadau
Mae dyfyniadau Google Scholar ar gyfer y papurau canlynol yn amrywio o 295 i 118. Mae papur Gwyddor Gweithredu 2008 wedi bod yn gyson ymhlith y 10 papur mwyaf poblogaidd ar gyfer y Cyfnodolyn, ar ôl cael eu cyrchu dros 21,000 o weithiau.
Mae dyfyniadau wedi'u paru yn erbyn y papurau a restrir isod. Mae llawer o'r dyfyniadau yn mynd y tu hwnt i 'gyfeirio' ac yn cynnwys astudiaethau empirig sydd wedi defnyddio'r fframwaith PARIHS - e.e. wrth werthuso a gweithredu ymyriadau, ac asesu'r llwyddiant a'r heriau sy'n gysylltiedig â gweithredu.
Papurau allweddol
- Kitson A, Rycroft-Malone J, Harvey G, McCormack B, Seers K, Titchen A (2008) Evaluating the successful implementation of evidence into practice using the PARIHS framework: Theoretical and practical challenges, Implementation Science, 3(1), 7th January 2008 (157 o ddyfyniadau, cyrchwyd dros 21,000 o weithiau)
- Rycroft-Malone J, Harvey G, Seers K, Kitson A. McCormack B, & Titchen A. (2004) An exploration of the factors that influence the implementation of evidence into practice. Journal of Clinical Nursing, 13, 913-924 (265 o ddyfyniadau)
- Rycroft-Malone J, Seers K, Titchen A, Harvey G, Kitson A, McCormack B (2004) What counts as evidence in evidence-based practice? Journal of Advanced Nursing, 47(1): 81-90 (330 o ddyfyniadau)
- Rycroft-Malone J. (2004) The PARIHS framework – A framework for guiding the implementation of evidence-based practice. Journal of Nursing Care Quality, 19(4), 297-304. (158 o ddyfyniadau)
- Harvey G, Loftus-Hills A, Rycroft-Malone J, Titchen A, Kitson A, McCormack B, Seers K (2002) Getting evidence into practice: the role and function of facilitation. Journal of Advanced Nursing, 37(6): 577-588 (271 o ddyfyniadau)
- McCormack B, Kitson A, Harvey G, Rycroft-Malone J, Titchen A, Seers K (2002) Getting evidence into practice: the meaning of context. Journal of Advanced Nursing, 38(1): 94-104 (337 o ddyfyniadau).
- Rycroft-Malone J, Kitson A, Harvey G, McCormack B, Seers K, Titchen A, Estabrooks C (2002) Ingredients for change: revisiting a conceptual framework. Quality in Healthcare, 11(2): 174-180. (158 o ddyfyniadau)
Defnyddwyr a buddiolwyr allweddol - enghreifftiau
Heddlu Gogledd Cymru ac Asiantaeth Genedlaethol Gwella'r Heddlu. Yr NPIA a Heddlu Gogledd Cymru wedi cysylltu er mwyn cydweithio i ddefnyddio PARIHS i ddatblygu ymarfer plismona effeithiol.
Gweinyddu cyn-filwyr – yr Unol Daleithiau - rhaglen QUERI - defnyddiwyd fframwaith PARIHS fel rhan o ddull y sefydliad i hwyluso a gwerthuso gwella ansawdd - e.e. A Guide for applying a revised version of the PARIHS framework for implementation Cheryl B Stetler, Laura J Damschroder, Christian D Helfrich, Hildi J Hagedorn Implementation Science 2011, 6:99
Cyflwyno gwasanaeth a datblygu ymarfer - Defnyddiwyd yn y Greater Manchester CLAHRC- tystiolaeth yn eu dogfennau fel y fframwaith a ddewiswyd i drefnu eu gweithgaredd gweithredu.